Ysbytai di-fwg

Smygu yw prif achos marwolaethau ataliadwy yn y Deyrnas Unedig o hyd. Mae 100,000 o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd ei effeithiau, gan gynnwys 28% o’r holl bobl sy’n marw o ganser1.

Yn Lloegr, roedd modd priodoli 454,700 o dderbyniadau i ysbytai i smygu yn 2013/142,yng nghymru dros y cyfnod o 2008-10, roedd cyfartaledd o 5,605 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig efo ysmygu yn ogystal a 28,607 o dderbyniadau i ysbytai oherwydd ysmygu3

Wrth gwrs nid yn unig yw ysmygu yn niweidio’r unigolyn sy’n defnyddio’r sigaret ond mae’n cael effaith ar y iechyd bobl o’i amgylch sydd ddim yn ‘smygu. Yn 2002 fe wnaeth yr Asiantaeth Rhyngwladol ar gyfer Ymchwil ar Ganser (IARC), wedi gynnull gan y Cyfundrefn Iechyd y Byd, cynnal adolygiad o dystiolaeth ar fwg ail-law a chanser ac yn canfod bod "y dystiolaeth yn ddigonol i ddod i'r casgliad bod ysmygu anwirfoddol yn achos canser yr ysgyfaint yn pobl sydd byth wedi ysmygu." Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad fod amlygiad i fwg pobl eraill yn cynyddu’r risg o ganser yr ysgyfaint yn pobl sydd ddim yn ysmygu gan 20-30% a chlefyd coronaidd y galon gan 25-35%4.   

Health

Mae miloedd o gleifion yn mynd i’r ysbyty bob blwyddyn ac mae dyletswydd gofal ar y sefydliadau eilaidd hyn i warchod iechyd y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau ac yn gweithio ynddynt, ac i hybu ymddygiad iach ymysg y bobl hynny5. Mae cleifion yn gynulleidfa allweddol o ran rhoi’r gorau i smygu gan fod yna fanteision ychwanegol iddynt ar ôl eu triniaeth, gan gynnwys arosiadau byrrach yn yr ysbyty a llai o gymhlethdodau6

Mae Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal y Deyrnas Unedig wedi dweud bod yn rhaid i ysbytai a chlinigau wneud mwy i helpu cleifion i roi’r gorau i smygu, ac mae hyn yn cynnwys gwneud eu safleoedd, gan gynnwys eu tiroedd, yn ddi-fwg5.

Dylai’r GIG fod yn esiampl wrth annog pobl i beidio â smygu a dylid cynnwys y polisi hwn ledled y GIG yng Nghymru, yn hytrach nag mewn ffordd ad hoc fel sy’n wir ar hyn o bryd.

UHW-smokefree-1
Mae'r arwydd ar Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Y sefyllfa bresennol yng Nghymru

Ym mis Gorffennaf 2017, pasiwyd Deddf Iechyd y Cyhoedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y Ddeddf mae mesur i wahardd smygu ar diroedd ysbytai, gan ei gwneud yn anghyfreithlon smygu ar unrhyw diroedd sy’n cyffinio ag ysbyty neu sy’n cael eu defnyddio/meddiannu gan ysbyty yng Nghymru. Dylid nodi, fodd bynnag, bod darpariaeth wedi’u chynnwys yn y Ddeddf sy’n caniatáu i’r person a chanddo ofal am yr ysbyty ddynodi unrhyw fan ar y tiroedd yn fan lle mae smygu i gael ei ganiatáu. At hynny, nid yw mangre sy’n gartref gofal i oedolion neu’n hosbis i oedolion, na mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd, yn ddi-fwg yn rhinwedd y Ddeddf hon. Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch gweithredu’r mesurau a geir yn y Ddeddf, felly mae’n debyg mai yn 2019 neu 2020 y bydd y mesurau hyn yn cael eu gweithredu’n llawn.

Cefnogaeth

Yn 2017 comisiynasom arolwg YouGov gan ofyn “Pa mor gryf, os o gwbl, ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r gosodiad canlynol? – Dylid gwahardd smygu ar diroedd ysbytai”. Cytunodd 71% o’r rhai a holwyd. 27% oedd y ffigur cyfatebol ymysg smygwyr7.

Gweithredu

Rhagor o wybodaeth


References

1Smoking statistics: Illness and death. ASH England. November 2014.

2Statistics on Smoking in England 2015. Health and Social Care Information Centre. May 2015.

3Welsh Government and Public Health Wales Observatory (2012). Tobacco and health in Wales.

4Tobacco smoke and involuntary smoking. IARC Monographs on the evaluation of carcinogenic risks to humans. Vol 83. Lyon, France, 2004.

5Smoking cessation in secondary care: acute, maternity and mental health services. NICE. November 2013.

6Smoking and surgery. ASH England. March 2013.

7YouGov survey commissioned by ASH Wales. Total sample size was 1120 adults (aged 18+). Fieldwork was undertaken between 16th February and 19th March 2017.