Meysydd chwarae di-fwg

Mae’n bleser iddyn ni cyhoeddi, er Mawrth 2016 mae pob awdurdod lleol yn gweithredu gwaharddiadau gwirfoddol yn eu meysydd chwarae lleol. 

Welsh

Ers 2012, rydyn ni wedi ymgyrchu i gael yr awdurdodau lleol i gyd yng Nghymru i gyflwyno polisiau di-fwg yn meysydd chwarae eu blant i sicrhau yr ydyn nhw’n cael eu amddiffyn o’r niwed o fwg ail-law. Mae’r ymgyrch hon yn rhan o’n menter ehangach o’r enw 'Mannau Di-fwg', sydd hefyd yn cynnwys ymgyrchu i gael traethau di-fwg ac i gael mannau eraill, lle mae pobl ifanc yn chwarae ac yn cael ymarfer corff, yn ddi-fwg.

Pam meysydd chwarae?

Yn 2017, dangosodd arolwg YouGov a chomisiynwyd gan ASH Cymru fod 83% o oedolion yn credu y dylid gwahardd smygu mewn mannau chwarae plant yn yr awyr agored.

Mae smygu mewn mannau i deuluoedd yn cyfleu neges i blant bod tybaco’n rhan gyffredin o fywyd yn hytrach na chyffur marwol a chaethiwus. Yn ogystal â hyn, gall bonion sigaréts gymryd hyd at 12 mlynedd i fioddiraddio, ac yn y cyfamser maent yn creu perygl i anifeiliaid a phlant ifanc, a all eu llyncu. Mae hynny heb gyfrif y blychau, seloffen, tanwyr, matsis, blychau matsis, papur neu fagiau sydd hefyd yn falltod ar ein parciau a’n meysydd chwarae ac y mae’n costio arian i’w casglu. Rydym yn credu bod gan blant a phobl ifanc hawl i chwarae, cyfarfod â’u ffrindiau a chymryd rhan mewn chwaraeon mewn amgylchedd glân a di-fwg.

Yr ymgyrch

Ers hynny mae’r ymgyrch wedi grymuso plant ledled Cymru, o gynghorau ieuenctid i ysgolion, i hawlio eu mannau nhw yn ôl. Mae pobl ifanc wedi datblygu eu hymgyrchoedd eu hunain ac wedi lledaenu’r neges yn eu cymunedau lleol.

Y dyfodol

Ym mis Gorffennaf 2017, pasiwyd Deddf Iechyd y Cyhoedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y Ddeddf mae mesur i wahardd smygu ar feysydd chwarae cyhoeddus yng Nghymru, gan ei gwneud yn anghyfreithlon smygu mewn man sydd wedi ei dylunio neu ei haddasu ar gyfer defnyddio un neu ragor o eitemau o gyfarpar maes chwarae gan blant. Ar gyfer meysydd chwarae â ffiniau sydd wedi eu marcio’n glir, mae smygu wedi’i wahardd yn yr ardal gyfan o fewn y ffiniau hynny. Ar gyfer meysydd chwarae nad oes ganddynt ffiniau ffisegol, ni chaniateir smygu o fewn 5 metr i unrhyw eitem o gyfarpar maes chwarae. Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch gweithredu’r mesurau a geir yn y Ddeddf, felly mae’n debyg mai yn 2019 neu 2020 y bydd y mesurau hyn yn cael eu gweithredu’n llawn.

Morgan Jones Ysgol Dwyran

Ynys Môn

Lansiodd Cyngor Ynys Môn fenter ddi-fwg weledigaethol yn 2013 trwy wahardd smygu ar feysydd chwarae, yn ogystal ag ar diroedd canolfannau hamdden a’r tu allan i ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae Cyngor Ynys Môn wedi mynd ymhellach na chynghorau eraill yng Nghymru trwy ymgorffori polisi di-fwg nid yn unig ar feysydd chwarae ond mewn canolfannau hamdden yn ogystal ag ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd y mannau hyn lle mae pobl ifanc yn ymgynnull bellach yn llefydd mwy diogel o ganlyniad i’r penderfyniad hwn, heb fwg ail-law a sbwriel sigaréts. Mae’r cyhoedd wedi helpu i orfodi’r gwaharddiad, a’r gobaith yw y bydd yn meithrin newid i agweddau tuag at smygu o gwmpas pobl ifanc.

sign-caerphilly

Caerffili

Mae'r fforwm ieuenctid Caerffili, sy’n cynnwys 16 o bobl ifanc o bob rhan o’r fwrdeistref, wedi cynllunio, rheoli a chyflawni ymgyrchoedd i warchod ei barciau trwy brwdfrydedd a'r penderfyniad i wneud gwahaniaeth i’w hardal.

Dechreua hanes y mudiad yng nghynhadledd flynyddol y fforwm ieuenctid ym mis Hydref 2011, lle cododd y bobl ifanc faterion y teimlent eu bod yn bwysig yng Nghaerffili. Yna pleidleisiodd pobl ifanc o bob rhan o’r fwrdeistref ar y materion pwysicaf o’r gynhadledd hon. Ar ôl hyn, cynhaliodd fforwm ieuenctid Caerffili brosiect blwyddyn i fynd i’r afael â fandaliaeth mewn parciau. Nod prosiect Gwarchod Ein Parciau oedd codi ymwybyddiaeth am broblemau sy’n effeithio ar barciau Caerffili gan gynnwys smygu a sbwriel, yn ogystal â chynllun i wneud pob maes chwarae ym Mwrdeistref Sirol Caerffili’n ddi-fwg. 

Ceri-from-Ysgol-Pen-Barras

Sir Ddinbych

Maes chwarae Cae Ddol yn Rhuthun fydd y maes chwarae di-fwg swyddogol cyntaf yn y sir. Mae’r fenter, a lansiwyd ar Ddiwrnod Dim Smygu (Mawrth 13eg 2013), wedi cael ei datblygu gan Gyngor Sir Ddinbych a phartneriaid sy’n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.

Yn ystod y broses, a gymerodd chwe mis, gwahoddwyd ysgolion cynradd ac uwchradd a chlybiau ieuenctid lleol i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio arwydd di-fwg newydd. Cafwyd mwy na 340 o gynigion yn y gystadleuaeth. Yr enillydd oedd Ceri o Ysgol Pen Barras a bydd ei dyluniad yn cael ei arddangos ym mhob un o’r 85 o feysydd chwarae sydd dan ofal yr awdurdod lleol.