Smygu ac iechyd meddwl

Mae cyfraddau smygu’n uwch ymysg pobl sy’n dioddef o anhwylderau iechyd meddwl. Awgrymwyd bod smygu’n cael effaith ar iechyd meddwl pobl, ac y gallai rhoi’r gorau i smygu helpu i wella iechyd meddwl. Mae nifer o astudiaethau ymchwil ar y gweill sy’n edrych a yw hyn yn wir.

Smoking-and-mental-health

Y ffeithiau a’r ffigurau

Mae 1 o bob 4 oedolyn ym Mhrydain yn cael o leiaf un broblem iechyd meddwl mewn blwyddyn1, a gorbryder ac iselder cymysg yw’r anhwylder meddwl mwyaf cyffredin. Mae’r amcangyfrifon yn amrywio, ond mae ymchwil yn awgrymu bod gan 20% o blant broblem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol, ac oddeutu 10% ar unrhyw adeg benodol2.

Cyfraddau smygu ac iechyd meddwl

Gwelir cyfraddau smygu sylweddol uwch ymysg pobl ag anhwylder iechyd meddwl o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Mae ymchwil wedi dangos bod unigolion sydd â salwch meddwl oddeutu dwywaith mor debygol o smygu ag unigolion eraill3. Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2015, lle mae ymatebwyr â salwch meddwl yn cael eu diffinio fel pobl sy’n dweud eu bod yn cael eu trin ar hyn o bryd am iselder, gorbryder neu ‘salwch meddwl arall’, 33% yw’r cyfradd smygu ymysg oedolion â salwch meddwl. Mae hyn yn cymharu â chyfradd smygu o 19% a gofnodwyd ymysg yr holl boblogaeth oedolion yng Nghymru. Yn gyson â’r patrwm a welir yn y boblogaeth gyffredinol, mae gan wrywod sydd â salwch meddwl gyfradd smygu uwch nag sydd gan fenywod (36% yn erbyn 31%), ond mae’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau’n amlycach ymysg y rheiny sydd â salwch meddwl.

Smoking Prevelance Mental Health Cym 28092017

Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu, ynghyd â chyfradd smygu uwch ymysg pobl sydd â salwch meddwl, fod unigolion o’r fath hefyd yn smygu nifer fwy o sigaréts4.

Mae’n anodd iawn cadarnhau perthynas achosol rhwng smygu ac iechyd meddwl oherwydd mae llawer o bobl yn dechrau smygu cyn iddynt gael diagnosis o salwch meddwl. Hyd yma ni fu modd canfod a yw smygu’n cynyddu risg datblygu anhwylder meddwl neu a yw bod ag anhwylder meddwl yn cynyddu risg smygu. Mae’n bosibl bod pobl sydd ag anhwylderau meddwl yn gweld smygu fel ffordd o ymdopi â rhai o sgil-effeithiau eu salwch meddwl.

Please No Smoking Banner

Rhoi’r gorau i smygu ac iechyd meddwl

Yn y gorffennol nid oedd gweithwyr iechyd meddwl yn ystyried bod hybu rhoi’r gorau i smygu yn flaenoriaeth, er gwaethaf y canlyniadau y gall smygu eu cael i iechyd corfforol claf. Felly datblygodd ‘diwylliant o smygu’ o gwmpas llawer o leoliadau iechyd meddwl, ac ni chafodd smygu ei herio gan y staff am amrywiaeth fawr o resymau. Serch hynny, gwyddom fod smygwyr sydd ag anhwylderau meddwl yr un mor debygol o fod eisiau rhoi’r gorau iddi ag yw pobl sydd hebddynt. Mae rhaglenni effeithiol i roi’r gorau i smygu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio o gwmpas eu salwch meddwl penodol hwy; mae’r rhaglenni’n rhai hyblyg sy’n cymryd eu ffordd o fyw i ystyriaeth.

Ym mis Ionawr 2017 cynaliasom ddigwyddiad diweddaraf Tybaco neu Iechyd Cymru ar bwnc smygu ac afiechyd meddwl. Roedd yn ddigwyddiad cynhyrchiol iawn, a daeth cydweithwyr o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a GIG Cymru iddo. Cafwyd cyflwyniadau gan ASH Scotland, MIND Aberystwyth a Phrifysgol Caerefrog ar y diwrnod, ynghyd â thrafodaethau grŵp ar bwnc heriau sy’n gysylltiedig â rhoi’r gorau i smygu ac afiechyd meddwl, ac atebion posibl i’r broblem. Yn dilyn y digwyddiad rydym wedi llunio rhestr o argymhellion yn deillio o’r trafodaethau a gynhaliwyd, fydd yn cael eu cynnwys mewn adroddiad a’u rhoi i Lywodraeth Cymru.

Mae dogfen briffio a grëwyd yn dilyn y cyfarfod hwn, sy’n cynnwys argymhellion gan weithwyr proffesiynol a phwyntiau allweddol i sefydliadau a Llywodraeth Cymru, ar gael i’w lawrlwytho:

Unedau iechyd meddwl di-fwg

Mae ASH Cymru’n galw ar bob sefydliad gofal iechyd meddwl yng Nghymru i fabwysiadu polisi di-fwg gan ein bod yn credu y byddai hyn yn hybu agwedd iachach a mwy cadarnhaol ymysg y staff a’r cleifion.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae unedau iechyd meddwl sy’n darparu llety preswyl i gleifion wedi’u hesemptio o Reoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) 2007. Fodd bynnag, mae’n ofynnol i unedau iechyd meddwl sy’n darparu llety preswyl i gleifion yn Lloegr orfodi polisïau di-fwg, ac yn ôl arolwg gan YouGov a gomisiynwyd gan ASH Cymru yn 2015 mae 61% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi cyfraith debyg yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth


Cyfeiriadau

1Adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar Forbidrwydd Seiciatrig (lawrlwytho). 2001

2Lifetime Impacts: Childhood and Adolescent Mental Health, Understanding the Lifetime Impacts, Sefydliad Iechyd Meddwl. 2005

3Lasser K, Boyd JW, Woolhandler S, Himmelstein DU, McCormick D, Bor DH. Smoking and mental illness: a population-based prevalence study. JAMA. 2000;284(20):2606-2610

4Lawrence D, Mitrou F Zubrick SR. Smoking and mental illness: results from population surveys in Australia and the United States. BMC Public Health 2009; 9:285