Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru’n galw am weithredu ar fyrder i roi cymorth gwell i bobl ag afiechyd meddwl roi’r gorau i smygu, gan fod y ffigurau’n dangos bod y gyfradd yn eu mysg 14% yn uwch nag ymysg y boblogaeth gyffredinol.

Mae Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru, sy’n cael ei redeg gan y grŵp ymgyrchu ar reoli tybaco ASH Cymru, yn dweud bod angen ymateb llawn a thrylwyr gan gynnwys: gwasanaeth cenedlaethol pwrpasol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu, hyfforddiant i weithwyr iechyd a gwaharddiad ar smygu mewn unedau preswyl iechyd meddwl.   

Smoking-and-mental-health

Ar hyn o bryd mae 33% o’r bobl sydd ag afiechyd meddwl yn smygu, o gymharu â dim ond 19% o’r boblogaeth gyffredinol ledled Cymru.

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod smygwyr sydd ag afiechyd meddwl yr un mor debygol o fod eisiau rhoi’r gorau iddi â gweddill y boblogaeth, gan chwalu’r myth nad yw’n peri pryder iddyn nhw. Nid yw’n wir chwaith bod smygu’n lleddfu straen gan fod llawer o’r teimladau hyn yn cael eu hachosi gan ddiddyfnu o nicotin, na fyddai’n bodoli pe na bai’r unigolyn yn smygu. Mae cyfraddau smygu uchel yn achosi llawer mwy o berygl marwolaeth gynamserol, salwch difrifol ac ansawdd bywyd gwaeth i bobl sydd ag afiechyd meddwl. Nid dim ond mater o iechyd yw hyn; mae diweithdra uchel a chost gynyddol tybaco’n creu baich ariannol trwm i smygwyr - mae rhwng chwarter a thraean holl incwm cyfartalog unigolyn sydd ag afiechyd meddwl yn cael ei wario ar dybaco.

Mental Health Smoking Prevelance June 2017 Cym

Mae Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru, sy’n cynnwys 60 o weithwyr iechyd proffesiynol o bob rhan o Gymru, yn galw am weithredu pendant i fynd i’r afael â’r broblem ac wedi creu pedair galwad allweddol, sef:

  • Gosod targedau rhoi’r gorau i smygu sydd yr un peth ag ymysg y boblogaeth gyffredinol
  • Sefydlu gwasanaethau pwrpasol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu a fydd yn cael eu datblygu gan ac i bobl sydd â salwch meddwl
  • Diwygio dogfen Llywodraeth Cymru “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun cyflawni” i roi sylw i hyfforddiant i’r holl staff cymorth iechyd meddwl
  • Dileu’r eithriad sy’n caniatáu smygu mewn unedau preswyl iechyd meddwl
Bonding 1985863 1920

Mae polisïau di-fwg mewn unedau iechyd meddwl yng Nghymru y tu ôl i’r rhai yn Lloegr, lle mae’n ofynnol gan y gyfraith i unedau preswyl orfodi polisïau di-fwg ers 2008. Yng Nghymru mae ystafelloedd dynodedig mewn unedau iechyd meddwl wedi’u heithrio o’r gwaharddiad hwn. 

Hefyd mae llawer o fyrddau iechyd yn Lloegr a’r Alban wedi dewis gwneud eu holl safleoedd GIG yn fannau di-fwg. Mae cefnogaeth sylweddol ymysg y cyhoedd i newid y polisi yng Nghymru. Yn ôl arolwg gan YouGov yn 2015, a gomisiynwyd gan ASH Cymru, mae 61% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi cyfraith debyg mewn darpariaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: “Mae’n ffaith drist a syfrdanol bod mwy na 50% o’r bobl â sgitsoffrenia yn marw o salwch sy’n gysylltiedig â smygu. Ni ddylid anghofio iechyd corfforol unigolyn wrth drin ei iechyd meddyliol.

“Gwyddom y byddai mwy na 60% o’r holl smygwyr, gan gynnwys y rheiny sydd ag afiechyd meddwl, yn hoffi rhoi’r gorau iddi, felly mae angen inni sicrhau bod pob unigolyn yn cael cymaint o gymorth ag sy’n bosibl i’w helpu i roi’r gorau iddi. Mae arnom ni angen gwasanaethau wedi’u teilwra, targedau heriol a hyfforddiant trylwyr ar roi’r gorau iddi i bawb sy’n gweithio gyda phobl sydd ag afiechyd meddwl.

“Mae gwasanaethau profedig yn bodoli eisoes, fel un Mind Aberystwyth, sy’n llwyddo i gynorthwyo pobl i gamu i ffwrdd o dybaco marwol. Mae angen inni ddatblygu eu gwaith anhygoel ar draws Cymru gyfan. Ni allwn barhau i osgoi cynorthwyo rhywun i roi’r gorau i smygu ar sail y ffaith ei fod â salwch meddwl.”

Mae bwlch enfawr wedi dod i’r amlwg o ran anghydraddoldeb iechyd, sy’n peri mwy o berygl marwolaeth gynamserol i bobl sydd ag afiechyd meddwl – hyd at 25 mlynedd yn gynharach.